Diogelwch ar y ffyrdd

Cyn i chi fynd allan i chwarae Beat the Street rydym yn argymell rhieni, athrawon ac arweinwyr cymunedol i edrych ar THINK! ymgyrch diogelwch ffyrdd - dyma adnodd un stop ar gyfer deunyddiau addysg diogelwch ffyrdd. Rydym hefyd yn argymell dysgu Cod y Groes Werdd i sicrhau bod plant yn edrych y ddwy ffordd ac yn cymryd gofal wrth groesi ffyrdd.


Gwelededd

Cynyddwch eich gwelededd i helpu gyrwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd i'ch gweld. Gwisgwch ddeunyddiau llachar a fflwroleuol yn ystod y dydd a deunyddiau adlewyrchol gyda'r nos.


Defnyddiwch oleuadau sy'n fflachio ar eich beiciau, adlewyrchyddion pedal a gwisgwch gotiau, bagiau neu festiau adlewyrchol. Defnyddiwch helmed beic gwyn neu liw llachar neu hyd yn oed un gyda golau! Peidiwch ag anghofio ci’r teulu – defnyddiwch dennyn a choler gweladwy, harnais neu gôt.


Diogelwch ar y Rhyngrwyd

Wrth ymgysylltu â Beat the Street trwy gyfryngau cymdeithasol, byddwch yn ymwybodol bod unrhyw sylwadau, lluniau neu fideos a bostiwyd gan y chwaraewr yn gyhoeddus ac felly yn weladwy i unrhyw un. O ganlyniad, dylai rhieni sicrhau nad yw unrhyw wybodaeth (fel cyfeiriad, manylion cyswllt, ac ati) a allai adnabod plentyn yn cael ei rhannu. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch, cyfeiriwch at adnoddau Internet Matters ar gyfer cadw plant yn ddiogel ar-lein.


Eich Iechyd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud ymarfer corff o fewn eich terfynau eich hun. Mae canllawiau cerdded er lles y GIG yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i unrhyw un sy'n newydd i gerdded neu sydd wedi cael seibiant o ymarfer corff. Ymgynghorwch â'ch meddyg cyn cymryd rhan os oes gennych chi hanes o broblemau iechyd neu os ydych chi'n profi unrhyw boen neu anghysur wrth wneud ymarfer corff.


Byddwch yn Ddiogel Covid

Mae Beat the Street yn risg isel, yn ddigyswllt ac yn hawdd ei chwarae wrth gynnal pellter cymdeithasol. Mae'n cael ei greu gan Intelligent Health, tîm o arbenigwyr iechyd corfforol dan arweiniad Dr William Bird, meddyg teulu sy'n gweithio ar reng flaen y GIG yn erbyn Covid-19. Mae Beat the Street yn cael ei chwarae yn yr awyr agored yn unigol, gyda'ch cartref neu mewn grwpiau bach yn unol â chanllawiau cyfredol COVID-19.
  • Mae Beat the Street Bocs Beat yn ddigyffwrdd felly mae’n ffordd berffaith o ymarfer corff a chael hwyl gyda ffrindiau yn yr awyr agored 
  • Peidiwch â chyffwrdd â chardiau sy'n perthyn i eraill 
  • Fel bob amser, golchwch eich dwylo â sebon a dŵr am 20 eiliad pan fyddwch yn dychwelyd adref.