Bydd ysgolion yn dosbarthu deunydd gêm i blant 11 oed ac iau. Bydd hyn yn cynnwys cerdyn i'r plentyn, cerdyn rhiant/gofalwr a map. Mae ysgolion sy'n cymryd rhan yn dechrau dosbarthu'r rhain i ddisgyblion yn yr wythnos cyn y gêm.


Gall unrhyw un 12 oed a hŷn gasglu cerdyn i chwarae ag ef o'u man dosbarthu lleol. Pan fyddwch wedi casglu cerdyn, crëwch gyfrif ar-lein, cysylltwch eich cerdyn â'r cyfrif a dechreuwch swiping. Darganfyddwch ble i gasglu cerdyn yn adran Cwestiynau Cyffredin eich gwefan gêm leol.


Gall oedolion helpu i gefnogi tîm ysgol neu ymuno â/sefydlu tîm cymunedol. Gallai hwn fod yn dîm ar gyfer eich clwb lleol, gweithle neu hyd yn oed grŵp mawr o ffrindiau. Fel arall, gallwch hefyd ddewis chwarae i elusen leol, a bydd eich pwyntiau yn eu helpu i gyrraedd eu nod rhoi.